Y diweddaraf

Rhyddhau albwm cyntaf Y Dail

Ar ôl creu argraff gyda chyfres o senglau, mae Y Dail wedi rhyddhau albwm cyntaf dan yr enw Teigr. Prosiect cerddorol Huw Griffiths o Bontypridd yw Y Dail a dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi rhyddhau llond llaw o draciau gan dderbyn adolygiadau ffafriol gan ystod eang o wefannau cerddorol, cylchgronau a rhaglenni radio.